Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Hydref 2016
Amser: 09.01 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3740
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Susan Hudson, Swyddfa Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru David Meaden, Swyddfa Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Suzy Davies AC, Comisiynydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) |
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.
3.1 Nodwyd y papur.
4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Amcangyfrif o Incwm a Threuliau 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
4.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar feincnodi yn erbyn cyrff eraill tebyg a chynlluniau ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.
5.1 Craffodd y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft 2017-2018 Comisiwn y Cynulliad.
5.2 Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ddarparu:
• rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad TGCh yn y dyfodol
• manylion am faint a wariwyd ar adnewyddu TGCh yn y Siambr
• nodyn yn egluro'r arbedion o 12% mewn TGCh
• esboniad dros y cynnydd mewn costau TGCh yn ymwneud â ‘Refeniw a Phrynu defnyddiau traul’
• y rhesymau dros y lleihad yn y gyllideb yn 2017-18 ar gyfer ‘Cyflogau ac argostau Aelodau’r Cynulliad’
• rhestr o'r 14 o ysgolion na wnaeth fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â'r Cynulliad
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y sesiwn ac o eitem 1 yn y sesiwn nesaf.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio am broses y gyllideb.